Cofiwch…
Peidiwch…
Peidiwch â chreu testun sy’n anodd ei ddarllen. Rhaid osgoi defnyddio dim ond priflythrennau, ffont mewn maint bach a ffontiau rhedol (cursive) na ffontiau sgript.
Peidiwch ag alinio'r testun i'r canol neu i'r dde a rhaid osgoi unioni llawn.
Peidiwch â chreu cynllun darllen cymhleth ac anniben. Dylech osgoi defnyddio dewislenni aml-haenog a rhestrau cymhleth.
Peidiwch â fformatio testun i gyfleu penawdau, ystyr neu strwythur trwy ddefnyddio’r botymau fformatio ar frig y sgrin, defnyddiwch ar arddulliau integredig yn lle hynny.
Peidiwch â defnyddio hyperddolenni nad ydynt yn cynnwys gwybodaeth a pheidiwch byth â defnyddio 'cliciwch yma'.
Cliciwch Yma
Peidiwch â defnyddio lliw neu siâp fel yr unig ffordd o gyfleu ystyr.
Peidiwch â chael cyferbyniadau gwan rhwng lliwiau a gosod testun dros ddelweddau neu gefndiroedd patrymog.
Peidiwch â defnyddio un dull mynegiant yn unig, yn enwedig wrth ddefnyddio cyfryngau neu egluro syniadau heriol. Dylid osgoi testun amgen (alt) sy’n aneglur neu or-gymhleth.
Peidiwch â darparu sain a fideo heb gynrychiolaeth amgen (alt).
Peidiwch â chaniatáu i gynnwys sain neu fideo chwarae'n awtomatig a gorfodi rheolaeth trwy ddefnyddio llygoden neu gyffwrdd y sgrin yn unig.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod eich cynnwys yn hygyrch heb i chi ei brofi.